YMDDIHEURIADAU
Cllr. James Maxwell (Vice Chairman), Reg Chapman, Ceri Griffiths, Wendy Williams.
PRESENNOL
Cllrs. Christopher Braithwaite (Chairman), Edwina Evans, Rhian Corps, Gordon Howie, Mark Lewis, Simon Turner, Martin Hughes, and Cllr. Annwen Hughes and Gwynfor Owen (Gwynedd Council).
‘Roedd 8 aelod o’r cyhoedd yn bresennol ar gychwyn y cyfarfod.
Eglurodd y Cadeirydd ei fod wedi galw y cyfarfod am 7.00 o’r gloch er mwyn i aelodau o’r cyhoedd gael amser i holi y Cyngor am wahanol faterion a bydd cyfarfod cyffredinol y Cyngor yn cychwyn am 7.10 o’r gloch. Fe ddatganodd y Cadeirydd byddai hyn yn parhau bob mis.
Gofynnwyd amrywiol o gwestiynau gan rhai aelodau o’r cyhoedd ynglyn ar cyfarfod a oedd wedi cymeryd lle ar y 19eg o fis diwethaf ag fe eglurwyd bod y cyfarfod hwn wedi cael ei drefnu gan aelodau o Fwrdd HAL a ddim Cyngor Cymuned Harlech.
Gofynnwyd cwestiwn ynglyn ar sefyllfa diweddaraf gyda wefan y Cyngor Cymuned ag fe ddatganwyd gyda lwc bydd y wefan yn fyw erbyn diwedd y mis hwn a bydd y dogfennau angenrheidiol yn cael eu uwchlwytho arni yn gyntaf gyda amrywiol o ddogfenau i ddilyn.
CYHOEDDIADAU Y CADEIRYDD
Diolchodd y Cadeirydd i’r Cyng. James Maxwell, Is-Gadeirydd, am gadeirio y cyfarfod mis diwethaf.
Ar ran y Cyngor dymunodd y Cadeirydd wellhad buan i’r Cyng. Wendy Williams.
Ar ran y Cyngor dymunodd y Cadierydd benblwydd hapus 90 hwyr i’r Cyng. Edwina Evans.
Fe ddatganodd y Cadeirydd ei fod wedi mynychu y cyfarfod oedd wedi cael ei drefnu gan aelodau o Fwrdd HAL
COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Chwefror 3ydd 2025 fel rhai cywir.
MATERION YN CODI O’R COFNODION
Nid oedd unrhyw fater yn codi o’r cofnodion.
DATGAN BUDDIANT
Datganodd y Cyng. Edwina Evans ddiddordeb yn llythyr Teulu Castell ag fe arwyddwyd Dogfen Datgan Buddiant Personnol ganddi a ni chymerodd ran pan drafodwyd y mater.
MATERION CYNGOR GWYNEDD
Fe dderbyniwyd yr adroddiad canlynol gan y Cyng. Annwen Hughes ar Cyng. Gwynfor Owen – Adroddodd y Cyng. Annwen Hughes ers y cyfarfod diwethaf ei bod wedi ymweld ar toiledau cyhoeddus (ochor merched) ger gwesty’r Queens ag yn siomedig o weld eu cyflwr oherwydd bod rhywun wedi taflu ysbwriel a difrodi bob un ciwbicyl ag ‘roedd wedi cysylltu gyda’r adran berthnasol yn Cyngor Gwynedd ynglyn a hyn yn syth ag oedd y gwaith o’I glanhau a trwsio wedi cael ei gario allan erbyn y diwrnod wedyn. Hefyd fe hysbysodd yr Aelodau y bydd yn mynychu cyfarfod gyda’r Heddlu yn Bermo ar ddydd Gwener y 7ed o’r mis hwn ag os byddai ganddynt unrhyw gwestiynau mae nhw eisiau iddi ofyn I’r Heddlu iddynt gysylldu a hi cyn hynny.
Adroddodd y Cyng. Gwynfor Owen ei fod wed derbyn cwyn bod ddim sedd yn y lloches bws ger Pen yr Hwylfa. Bod yna goed peryg ar y llwybr ger Pant Mawr, ‘roedd wedi mynychu y cyfarfod cyhoeddus a oedd wedi ei drefnu gan HAL, y te prynhawn yn y Neuadd Goffa, gwahanol gyfarfodydd gyda’r Awdurdod Tan. Fe hysbysodd yr Aelodau bod cyfarfod o’r Cyngor llawn yn cael ei gynnal ar y 6ed o’r mis hwn a bydd treth y cyngor yn cael ei drafod a’I gytuno am y flwyddyn ariannol nesa. Fe ddatganodd ei fod wedi cael gwybod bydd ddim mwy o loriau ailgylchu yn dod drwy’r dref.
MATERION YN CODI
Cynllun Cyllideb
Adroddwyd bod £68,113.96 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £36,177.79 o wariant yn llai na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn. (Mae hyn ar ol i’r gyllideb gael ei ail wneud).
HAL Update and Resolution
Rhybudd o Gynnig gan y Cyng. Mark Lewis
Mae Cyngor Cymuned Harlech yn cytuno I gymeryd perchnogaeth o safle Pwll Nofio Harlech a byddant yn prydlesu’r safle cyfan neu rhan ohono I Moelwyn Gymnastics neu tim y “People’s Plan. Bydd Cyngor Cymuned Harlech yn dewis un o’r opsiynau hyn erbyn y 26ain o Fawrth neu yn talu £12,000 ar y dyddiad hwnnw I HAL er mwyn clerio eu dyled gyda Chyngor Gwynedd.
Fe gafodd y Rhybudd o Gynnig uchod ei dynnu yn nol gan y Cyng. Mark Lewis.
Fe dderbyniwyd yr adroddiad canlynol gan y Cyng. Mark Lewis ar ran Aelodau Bwrdd HAL
Fe dderbyniwyd yr adroddiad canlynol gan y Cyng. Mark Lewis ar ran Aelodau Bwrdd HAL HAL / CCH Is-bwyllgor Diweddariad – 3ydd o Fawrth 2025 • Cynhaliwyd cyfarfod ymgynghori cyhoeddus ar y 19eg o Chwefror. HAL/CCH wedi’i wneud ers Rhagfyr. Prynodd y ddau dîm cynnig eu cynlluniau a chyflwynodd atebion i gwestiynau'r cyhoedd. Cafodd y cyhoedd gyfle i ofyn cwestiynau a rhoi adborth. • Rhoddodd y ddau dîm cynnig eu cynlluniau terfynol / cynlluniau busnes ar yr 21ain o Chwefror. • Ar 21ain o Chwefror, daliodd Cyngor Gwynedd £7,500 o ddyled £12,000 sydd owed i HAL. Bydd y gweddill o £4,500 yn cael ei maddebu os dewisir un o’r dwy opsiwn sy’n canolbwyntio ar y gymuned. Gan fod Cyngor Gwynedd wedi tynnu’u terfyn amser o ddiwedd Mawrth, nid oes terfyn amser caled bellach ar gyfer penderfynu ar y ffordd ymlaen. • Ymestynnwyd gohebiaeth eto at y ddau gynnig ynghylch gweithio gyda’n gilydd i gynnwys cyfleusterau naid a nofio ar y safle. Dywedwyd wrthym y byddai’r ddau brosiect yn cystadlu am yr un grantiau cyfyngedig yn y rhanbarth, gan greu sefyllfa lle gallai’r ddau brosiect ddod yn rhan-fuddiol a byddwn yn gorffen gyda dim byd. Mae tîm HAL / CCH wedi rhoi’r gorau i brosiect ar y cyd. • Mae tîm HAL / CCH nawr yn gwerthuso cynlluniau busnes y ddau gynnig ac yn adrodd yn ôl i’r cyngor pan fydd gennym argymhelliad. • Mae cyfarfod nesaf tîm HAL / CCH ar y 14eg o Fawrth, ar ôl i Reg a Jim ddychwelyd o’u gwyliau.
Cyflwynodd y Cyng. Simon Turner ddogfen drafft sy’n cwmpasu’r risgiau i Gyngor Cymuned Harlech o gymryd drosodd yr ased.
Ethol Cynghorydd
Adroddodd y Clerc ei bod wedi cael gwybod gan y Swyddog Etholiadol ei fod wedi derbyn cais am etholiad ag ei bod wedi derbyn Rhybudd Etholiad ganddo a mae’r cyfnod enwebu ar agor rhwng y 5ed o’r mis hwn hyd at 4.00 o’r gloch ar y 13eg o’r mis hwn.
Rhandiroedd
Adroddodd y Clerc ei bod wedi cael gwybod gan Ms Paula Ireland bod cyfarfodydd wedi cael eu cynnal ar y safle uchod a bod 5 rhandir newydd wedi cael eu gosod (rhifau 4, 9, 11 (a), 11 (b) a 12) a bod 4 rhandir yn wag (rhifau 5, 6, 8, 10 a 15/16). ‘Roedd wedi cael e-bost pellach gan Ms Ireland yn datgan bod cwpwl eisiau rhentu dau rhandir ag yn datgan eu bod yn bwriadu defnyddio'r plotiau'n bennaf fel lle cymdeithasol gyda bwriad llai o dyfu. Roeddynt yn meddwl am gael pyllau tân bach wedi'u cynnal yn ofalus neu chimenia ac efallai bath lloer, felly byddem yn cadw rhai o'r llwyni mwy yno i gadw rhywfaint o breifatrwydd. Ag oedd Ms Ireland eisiau barn y Cyngor am hyn cyn rhentu y ddau randir iddynt. Hefyd ‘roedd Ms Ireland wedi cael cyfarfod ar y safle gyda Mr. Meirion Evans ynglyn a gwneud llwybrau ar y safle ag oedd wedi rhoid pris o £500 am lafur a pheiriannau i adeiladu llwybr defnyddiol ar hyd llinell y ffens ar plot 11, gan ganiatáu mynediad i plot 12. Yn ogystal, byddai'n codi £100 am ddeunyddiau (is-sylfaen) ynghyd â TAW. Bydd yn levelu’r ardal, cloddio llwybr o faint priodol a llenwi gyda deunydd is-sylfaen (6 tunnell). Fe wnaeth gynnig i drwsio’r difrod i’r ddaear rhwng yr rhandiroedd ar fynwent a byddai yn cario allan y gwaith hwn am ddim. Er ei fod yn brysur iawn, byddai’n barod i gwblhau’r gwaith ym mis Mawrth gan ganiatáu i’r perchnogion plotiau newydd ddechrau cyn gynted ag y bo modd.
Mae’n awyddus i roi dyfynbris ar gyfer gwaith pellach a allai fod yn angenrheidiol yn y flwyddyn ariannol nesaf, er enghraifft adeiladu llwybr ar hyd y plotiau gwaelod gyda phibell ddŵr wedi’i gosod a glanhau’r tir cyffredin a’r ardal wrth ymyl y sied potio. Hefyd ‘roedd Ms Ireland yn gofyn a fyddai’n bosib i’r rhai sydd yn rhentu plotiau barcio ar y darn tir rhwng y rhandiroedd ar fynwent a datganodd y Clerc ei bod wedi dweud wrth y byddai hyn yn iawn cyn belled a bod neb yn parcio tu allan i’r gatiau am bod y darn hwn o dir yn perthyn i’r Capel gerllaw. ‘Roedd y Clerc wedi derbyn e-bost gan Mrs Stephanie Evans yn hysbysu y Cyngor ei bod yn rhoid gorau i’w ddau rhandir. Fe wnaeth yr Aelodau i gyd dderbyn pris Mr. Meirion Evans. ‘Roedd yr Aelodau i gyd yn cytuno bod rhentu rhandiroedd 15/16 i’r pwrpas oedd wedi ei amlinellu uchod ddim yn dderbyniol ag felly ‘roeddynt yn gwrthod y cais.
Cynllun Rheolaeth Llwybr Natur
Adroddodd y Clerc ei bod wedi cysylltu gyda Mr. Tom Edwards ynglyn a cario allan y gwaith angenrheidiol fel a oedd wedi cael ei nodi yn yr adroddiad ar y coed ar y safle uchod. Adroddodd y Clerc ymhellach ei bod wedi cael gwybod gan Mr. Tom Edwards y byddai yn ymweld ar safle yr wythnos hon.
Tir Penygraig
Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn e-bost gan Mr. Dylan Edwards, Cyfreithiwr o gwmni Guthrie Jones & Jones ynglyn ar mater uchod yn datgan eu bod wedi derbyn yr arian gan y Cyngor ag y byddant yn nawr yn mynd ymlaen i archebu’r chwiliadau a byddant mewn cysylltiad gyda’r Cyngor yn fuan. Adroddodd y Clerc ymhellach ei bod wedi derbyn e-bost arall gan Mr. Dylan Edwards ynglyn ar mater uchod ag yn datgan eu bod yn dal i aros i’r chwiliadau ddod yn nol, ag yn gofyn y cwestiynau canlynol:-
1. A fyddwch chi yn cyfarwyddo syrfewr i wneud y canlynol?:
i. I ganfod a yw`r tir yn ddiogel yn ffisegol i`w brynu;
ii. I wneud asesiad risg o`r safle;
iii. I ganfod a yw`r eiddo yn peryglu eiddo cyfagos;
iv. I adrodd a oes neu a fydd gwariant angenrheidiol ar yr eiddo yn y dyfodol i`w gadw yn ddiogel.
2. Atodwn gopi o TP1 y gofynnir ichi ei harwyddo maes o law. Cyfeireiwn yn benodol at y cymalau canlynol (ond dylech ei darllen i gyd yn ofalus): 4.1.1; 4.1.2; 4.1.3; 4.1.4; a 4.1.4.
3. Deallwn bod Cyngor Harlech yn prydlesu`r eiddo ar hyn o bryd. A gawn ni gopi o`r brydles honno os gwelwch chi yn dda.
4. Cyfeiriwn at gymal 5.2 yn y TP1. A wyddoch chi rywbeth am ` potentially contaminative uses`? Y mae hwn yn bwynt pwysig a all arwain at gostau sylweddol at y dyfodol os yw`r eiddo wedi ei lygru.
5. Cyfeiriwn at gymal 5.4. A wyddoch am unrhyw `Notice`?
6. Bydd y terfynau rhwng yr eiddo hwn a`r eiddo sydd ym meddiant y gwerthwr nas gwerthir ichi yn derfynau a gedwir ar y cyd - cymal 6.3.
Cytunwyd anfon yr uchod ymlaen I bob Aelod.
Cyfarfod Pwyllgor Ffordd Ymlaen – 30.1.25 ag adolygu cyhoeddi adroddiad Hanks
Cyflwynodd y pwyllgor ffordd ymlaen y cynnydd a wnaed hyd yn hyn ag ‘roedd hyn yn cynnwys amserlenni ac argymhellion, pleidleisiodd yr holl aelodau i gytuno ar yr argymhellion a nodwyd gan y pwyllgor ffordd ymlaen.
c) Agor Tenderau Torri Gwair
Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn un tender ynglyn a cario allan y gwaith uchod gan Mr. Meirion Griffith, Islwyn Talsarnau i dorri gwair y llwybrau cyhoeddus, cae chwarae Llyn y Felin ar fynwent gyhoeddus. Cytunwyd i dderbyn tender Mr. Meirion Griffith. Hefyd cytunwyd i dderbyn pris Mr. Gareth John Williams i dorri gwair cae chwarae Brenin Sior ar cae peldroed eto eleni. Cytunwyd i dderbyn y tender hon.
Gofynnwyd i’r cyhoedd adael yr ystafell pan oedd y mater uchod yn cael ei drafod
CEISIADAU CYNLLUNIO
Ddim wedi dod i law ers cyfarfod diwethaf y Cyngor.
ADRODDIAD Y SWYDDOG ARIANNOL CYFRIFOL
Adroddodd y Swyddog Ariannol Cyfrifol bod £22,490.52 yn y cyfrif rhedegol a £83,983.99 yn y cyfrif cadw.
Taliadau yn ystod y mis
Mrs Annwen Hughes - £882.00 - (cyflog 6 mis) + £685.60 (costau 6 mis) = £1,567.60
Mr. Joe Patton - £87.55 - costau gosod yr hysbysfwrdd yn cae chwarae Brenin Sior
Mr. Joe Patton - £10.00 - ad-dalaid costau archebu planhigion bwytadwy*
Play Inspection Company - £336.00 - archwiliad cae chwarae Brenin Sior a Llyn y Felin
Brown & Wolfe - £480.00 - blaendal 20% tuag at greu gwefan newydd i’r Cyngor
Mr. G. J. Williams - £142.50 - torri gwair cae chwarae Brenin Sior
Un Llais Cymru - £40.00 - hyfforddiant Cynghorwr
Mr. Lee Warwick - £256.27 - glanhau toiledau cyhoeddus ger y neuadd goffa
*Eglurodd y Swyddog Ariannol Cyfrifol ei bod wedi derbyn e-bost gan Mr. Joe Patton yn datgan oherwydd ei fod wedi derbyn ychydig dros £30 gan bwyllgor Gwyl Gwrw Llanbedr am y nwyddau hyn, na ddim ond £10 o ad-daliad mae yn ofyn am gan y Cyngor.
Ceisiadau am gymorth ariannol
Hamdden Harlech ac Ardudwy - £1,824.75 – cynnig precept (taliad misol)
Cylch Meithrin Harlech - £2,000.00
Cyfeillion Ysgol Tanycastell - £3,000.00
Pwyllgor Hen Lyfrgell - £1,000.00
Pwyllgor Neuadd Goffa - £1,000.00
CFFI Meirionnydd – cytunwyd anfon y llythyr hwn ymlaen i bob Aelod ag i’w drafod mis nesa
Teulu Castell – cytunwyd anfon y llythyr hwn ymlaen i bob Aelod ag i’w drafod mis nesa
Fe gafodd y taliadau uchod eu prosesu gan y Cyng. Christopher Braithwaite a wnaeth y Cyng. Martin Hughes gymeradwyo’r taliadau ag fe roddwyd ganiatad I’r Clerc/Trysorydd I’w talu ar lein neu drwy siec ar ddiwedd y cyfarfod.
Derbyniadau ers y cyfarfod diwethaf
Ddim wedi dod i law ers y cyfarfod diwethaf.
Anfonebau angen eu talu ers y cyfarfod diwethaf
Catrin Soraya Williams – £145.00 - gwasanaeth cyfieithu
Adroddodd y Swyddog Ariannol Cyfrifol ymhellach ei bod wedi gofyn i Ms Luned Fon Jones o Adran Cyllid, Cyngor Gwynedd a fyddai yn fodlon gweithredu fel Archwiliwr Mewnol y Cyngor eto eleni ag ei bod wedi cytuno i hyn.
GOHEBIAETH
Mrs K. Smith
Wedi derbyn e-bost gan yr uchod ynglyn ar ffens sydd wedi malu ar ochor yr A496 ag yn gofyn beth oedd y diweddaraf ynglyn a hyn. Cytunwyd i rhoid y mater ar agenda mis nesa a chytunodd y Cadeirydd i geisio cysylltu gyda perchenog y tir.
Parc Cenedlaethol Eryri
Wedi derbyn e-bost ynglyn ag enw yr ystad dai newydd ag yn datgan bod y datblygwr wedi dewis yr enw Maes Meillion ag yn gofyn am sylwadau gan y Cyngor ynglyn ar enw hyn. ‘Roedd y Clerc wedi anfon hwn ymlaen yn barod i bob Aelod. Cytunwyd bod gan yr Aelodau ddim sylwadau i’w gwneud ynglyn ar enw hwn.
Parc Cenedlaethol Eryri
Wedi derbyn e-bost gan yr uchod ynghyd a nodyn cyfarwyddyd Eryri ar y system gynllunio ag yn gofyn i’r Cyngor gymeryd sylw ohono pan yn trafod ceisiadau cynllunio. ‘Roedd y Clerc wedi anfon hwn ymlaen yn barod i bob Aelod.
Un Llais Cymru
Wedi derbyn e-bost gan yr uchod ynglyn a dyddiadau hyfforddiant am Chwefror a Mawrth er gwybodaeth i’r Cyngor. ‘Roedd y Clerc wedi anfon hwn ymlaen yn barod i bob Aelod.
Play Inspection Company
Wedi derbyn yr adroddiad ynglyn ar archwiliad ‘roeddynt wedi ei gario allan ar y ddau barc chwarae yn ddiweddar. ‘Roedd y Clerc wedi anfon hwn ymlaen yn barod i bob Aelod.
Cyngor Gwynedd – Adran Priffyrdd
Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor bydd gwaith cynnal a chadw yn cael ei gario allan ar y wal gynnal wrth Ivy House yn ystod y mis hwn a bydd angen goleuadau traffig ger y safle. ‘Roedd y Clerc wedi anfon hwn ymlaen yn barod i bob Aelod.
Heddlu Gogledd Cymru
Wedi derbyn e-bost gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd Cymru (CHTh), ynghyd a chopi o Gynllun Heddlu a Throsedd ar gyfer Gogledd Cymru er gwybodaeth I’r Cyngor. ‘Roedd y Clerc wedi anfon hwn ymlaen yn barod i bob Aelod.