Agenda Cyngor Cymuned Harlech - 07/07/25

Agenda llawn Cyngor Cymuned Harlech - 07/07/25

Annwyl Gynghorydd

Ysgrifennaf i ofyn am eich presenoldeb mewn cyfarfod o’r Cyngor Yn yr Hen Lyfrgell Harlech ar Nos Lun Gorffennaf 7ed July 7th 2025 at  am7.00 o'r gloch. Bwriedir trafod yr Agenda a ganlyn Bydd cyfarfodydd yn cychwyn am 7.00 o’r gloch fel gall Aelodau o’r cyhoedd amser I ofyn cwestiynau I’r Cyngor ar wahanol faterion a bydd cyfarfod swyddogol y Cyngor yn cychwyn am 7.10 o’r gloch.

Yn gywir

Annwen Hughes

Clerc

AGENDA

  1. Ymddiheuriadau

2. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

3. Datgan Buddiant

Cadarnhau cofnodion o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar Mehefin 2il 2025

5. Materion yn codi o’r cofnodion.

6. Materion Cyngor Gwynedd

MATERION YN CODI

a) Cynllun Cyllideb

b) Cwblhau Manada Banc Newydd

c) Cyrsiau Hyfforddiant i Aelodau ar Clerc

d) Cae Chwarae Brenin Sior

e) Cyfarfod Un Llais Cymru - Dolgellau 14.5.25

f)     HAL

g) Cronfa Gymunedol Parc Cenedlaethol Eryri

7. Ceisiadau Cynllunio (gweler rhestr amgaedig)

8. Adroddiad y Swyddog Ariannol Cyfrifol

9. Gohebiaeth (gweler rhestr amgaedig)                                

Ceisiadau Cynllunio wedi dod i law (hyd at 28.06.25)

Dymchwel yr ystafell wydr presennol ac adeiladu estyniad newydd gyda insiwleiddio allanol i’r tŷ, a codi sied gardd/garej ar wahân newydd (cais diwygiedig) 23 Ystad Castell Morfa, Harlech (NP5/61/660A)

Codi estyniad cefn unllawr Hafan Bach, Tŷ Canol, Harlech (NP5/61/675)

Tystysgrif Defnydd Cyfreithiol (Presennol) i ddefnyddio’r eiddo fel uned gosod gwyliau tymor byr sy'n dod o dan Orchymyn Dosbarth Defnydd C6 Gwelfor, Tryfar Terrace, Harlech (NP5/61/LUT312A)

Cais ôl-weithredol i gadw paneli solar ar y drychiadau blaen a cefn 71 Glan Gors, Harlech (NP5/61/676)

Gosod 23 panel solar ar y ddaear Foel, Harlech (NP5/61/608F)

Gohebiaeth wedi dod i law (hyd at 28.06.25)

Mr. D. Richards – e-bost yn gofyn am ganiatad I osod mainc er cof

Ms Karen Berry – e-bost ynglyn a llwybr gyferbyn ag 18 Parc Bron y Graig.

Un Llais Cymru – e-bost ynglyn a cyfarfod pwyllgor Ardal Meirionnydd

Anfonebau angen eu talu (hyd at 28.06.25))                      

Mr. Lee Warwick - £185.70 - glanhau toiledau cyhoeddus ger y neuadd goffa

Wateroo Ltd - £1,471.20 - cario allan archwiliad o tir Pen y Graig

Cyllid a Thollad - £110.00 - treth ar gyflog y Clerc

Anfonebau angen eu talu ers y cyfarfod diwethaf

Catrin Soraya Williams – Dim - gwasanaeth cyfieithu

 

 

Sut gallwn ni eich helpu chi heddiw

Dewiswch wasanaeth gan ddefnyddio'r gwymplen ar y dde
cyCymraeg