Agenda Cyngor Cymuned Harlech - 05/01/26

Agenda Llawn Cyngor Cymuned Harlech - 05/0126

Annwyl Gynghorydd

Ysgrifennaf i ofyn am eich presenoldeb mewn cyfarfod ariannol o’r Cyngor yn yr Hen Lyfrgell, Harlech Nos Lun Ionawr 5ed 2026 am 7.30 o’r gloch. Bwriedir trafod yr Agenda a ganlyn. finance meeting of the Council at the OLD LIBRARY, Harlech ar Nos Lun 5th January 2026 at 7.00 p.m.  It is proposed to discuss the following Agenda.

Yn gywir

Annwen Hughes

Clerc

AGENDA

  1. 1. Ymddiheuriadau

2. Cadarnhau cofnodion o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar Ragfyr 1af 2025

3. Materion yn codi o’r cofnodion

MATERION YN CODI

a) HAL – CIC

b) Panel Cyfrifiad Annibynnol

c) Cynllun Cyllideb

d) Polisi Asesiad Risg y Cyngor

e) Prosiectau y Cyngor 2026/27

f) Cyllideb y Cyngor am 2026/27

g) Precept y Cyngor am 2026/27

Adroddiad y Swyddog Ariannol Cyfrifol

Anfonebau angen eu talu (hyd at 27.12.25))                     

Cyllid a Thollad - £110.00 - treth ar gyflog y Clerc

Mr. Phil Price        – £440.00  - gwaith IT

Mr. M. J. Kerr - £580.00 - agor bedd y diweddar Mr. Peter JOnes

Brown & Wolfe - £1,920.00 - cynllunio gwefan a’I adeiladu

Anfonebau angen eu talu ers y cyfarfod diwethaf

Catrin Soraya Williams – Dim - gwasanaeth cyfieithu

Defib Store Ltd - £154.80 – pad I defib ger Capel Engedi (talwyd 16/12/25)

MATERION A DRAFODWYD AR OL Y PWYLLGOR CYLLID

Ceisiadau Cynllunio wedi dod i law (hyd at 27.12.25)

Cais ôl-weithredol i godi storfa boncyffion pren a beiciau, sied a phorth ceir

Ivy House, Harlech (NP5/61/L433A)

Caniatâd Adeilad Rhestredig i amnewid ffenestri a drysau sydd wedi’u difrodi gan storm gyda ffenestri a drysau alwminiwm gwydr-dwbl newydd i gyd-fynd â’r rhai presennol. Coleg Harlech, Harlech (NP5/61/LB3Z)

Tystysgrif Defnydd Cyfreithiol (Presennol) i ddefnyddio’r fflat ar y llawr cyntaf fel Dosbarth Defnydd C5 - Tai annedd a ddefnyddir heblaw fel unig breswylfa neu brif breswylfa ac a feddiannwyd am 183 diwrnod neu lai Fflat Plas, Siop Spar, Stryd Fawr, Harlech (NP5/61/LULB280E)

Gohebiaeth wedi dod I law (hyd at 27.12.25)

Llywodraeth Cymru – Llythyr ynglyn a gwariant Adran 137 y Terfyn ar gyfer 2026/27

Un Llais Cymru – e-bost ynglyn a cyfarfod pwyllgor Ardal Meirionnydd

Mr a Mrs Ratcliffe – e-bost yn gofyn am gyfraniad ariannol

Chapters Gymnastics – e-bost yn gofyn am gyfraniad ariannol

Os byddwch angen y linc zoom i'r cyfarfod hwn cysylltwch ar Clerc o flaen llaw

 

Sut gallwn ni eich helpu chi heddiw

Dewiswch wasanaeth gan ddefnyddio'r gwymplen ar y dde
cyCymraeg