Agenda Cyngor Cymuned Harlech - 01/12/25

Agenda llawn Cyngor Cymuned Harlech - 01/12/25

Annwyl Gynghorydd
Ysgrifennaf i ofyn am eich presenoldeb mewn cyfarfod o’r Cyngor Nos Lun Rhagfyr 1af 2025 yn YR HEN LYFRGELL Harlech am 7.00 o’r gloch. Bwriedir trafod yr Agenda a ganlyn. Bydd cyfarfodydd yn cychwyn am 7.00 o’r gloch fel gall Aelodau o’r cyhoedd amser I ofyn cwestiynau I’r Cyngor ar wahanol faterion a bydd cyfarfod swyddogol y Cyngor yn cychwyn am 7.10 o’r gloch.

Yn gywir
Annwen Hughes
Clerc

AGENDA
1. Ymddiheuriadau.
2. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd
3. Datgan Buddiant
Cadarnhau cofnodion o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar Dachwedd 3ydd 2025
5. Materion yn codi o’r cofnodion.
6. Materion Cyngor Gwynedd

7. MATERION YN CODI
a) Cynllun Cyllideb
b) Nadolig 2025
c) Llwybr Natur Bron y Graig
d) Arwyddion Fflachio
e) Ardal Ni - Cynllun Strategol
f) Y Las Ynys Fawr
g) Gwefan y Cyngor
h) HAL – CIC
i) Tir Penygraig
j) Grant Cyngor Gwynedd

8. Ceisiadau Cynllunio (gweler rhestr amgaedig)
9. Adroddiad y Swyddog Ariannol Cyfrifol
10. Gohebiaeth (gweler rhestr amgaedig)

Ceisiadau Cynllunio wedi dod i law (hyd at 22.11.25)
Ddim wedi dod I lawr ers y cyfarfod diwethaf

Gohebiaeth wedi dod i law (hyd at 22.11.25)
Parc Cenedlaethol Eryri – llythyr ynglyn a Cynllun Datblygu Lleol Eryri
Cyngor Gwynedd – llythyr ynglyn ymgynghori yn ymwneud a gorchymyn parcio newydd
Un Llais Cymru – e-bost ynglyn ar cyfarfod blynyddol

Anfonebau angen eu talu (hyd at 22.11.25)
Un Llais Cymru - £42.00 - cwrs hyfforddiant Cyng. James Maxwell
Groundsolve Ltd - £2,700.00 - arolwg tir Penygraig

Anfonebau angen eu talu ers y cyfarfod diwethaf
Blachere Illuminations - £354.24 - goleuadau nadolig
Simon Turner - £499.00 - nwyddau i'r orymdaith nadolig
Simon Turner - £487.93 - Goleuadau Nadolig
Catrin Soraya Williams – Dim - gwasanaeth cyfieithu

Sut gallwn ni eich helpu chi heddiw

Dewiswch wasanaeth gan ddefnyddio'r gwymplen ar y dde
cyCymraeg